On behalf of the pupils, staff and governors, I would like to welcome you to our new website.

We are a rural, federated, twin site school and very lucky to be situated in an ‘Area of Outstanding Natural Beauty’ in the Clwydian Hills in Denbighshire.

We are very proud of our ‘Caring and Sharing’ ethos and believe we provide a stimulating and exciting environment for our children with very strong links with our local communities.

We have high expectations of and for the children in our care and aim to provide them with the best possible start to their school lives.

We actively foster close partnerships between home, school and community, encouraging all to be involved in the many aspects of school life at Ysgol Bro Famau.

We hope that our website will keep you up to date with the work and activities happening in and around our very busy, unique school.

Mrs. Elizabeth Knight
Headteacher


Ar ran y disgyblion, staff a’r llywodraethwyr, hoffwn eich croesawu i’n gwefan newydd.

Rydym yn ysgol wledig, wedi’i ffedereiddio, ar ddau safle ac rydym yn lwcus iawn bod ein safleoedd mewn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ Mryniau Clwyd yn Sir Ddinbych.

Rydym yn falch iawn o’n hethos ‘Gofal a Rhannu’ a chredwn ein bod yn darparu amgylchedd gyffrous ar gyfer ein plant sy’n eu hysgogi, ac sydd gyda chysylltiadau cryf â’n cymunedau lleol.

Mae gennym ddisgwyliadau mawr oddi wrth ac ar gyfer y plant sydd dan ein gofal ac amcanwn i ddarparu’r dechrau gorau i’w bywyd ysgol.

Rydym yn hybu partneriaethau agos rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned, drwy annog pawb i ymwneud â’r llu o agweddau ar fywyd yn Ysgol Bro Famau.

Gobeithiwn y bydd ein gwefan yn darparu gwybodaeth cyfoes am waith a digwyddiadau o fewn ac o amgylch ein hysgol brysur ac unigryw.

Mrs. Elizabeth Knight
Pennaeth

footer curve